Ynglŷn â’r Prosiect

SMART NATURE: Mae’r Bannau i’r Bae yn rhan o brosiect ymgynghori sydd wedi’i sefydlu gan Fforwm Amgylcheddol Abertawe. Bydd yn helpu i gasglu sylwadau a syniadau ynghylch sut i reoli adnoddau naturiol Cwm Tawe a Bae Abertawe er budd pobl, yr amgylchedd a’r economi.

Mae’r prosiect yn cael ei ariannu gan Gyfoeth Naturiol Cymru, asiantaeth y llywodraeth gyda chyfrifoldeb dros y rhan fwyaf o faterion amgylcheddol yng Nghymru. Bydd yr wybodaeth a gesglir trwy’r wefan hon, a’r digwyddiadau ymgynghori cysylltiedig, yn cael ei defnyddio yng ngwaith a chynlluniau Cyfoeth Naturiol Cymru a Fforwm Amgylcheddol Abertawe.

Mae agwedd Cyfoeth Naturiol Cymru at reoli’n hadnoddau naturiol yn cael ei seilio ar ecosystemau. Ystyr hynny yw y bydd adnoddau’n cael eu rheoli mewn ffordd a fydd yn gwella iechyd yr amgylchedd ac yn fwy manteisiol i gymdeithas a busnesau.

Mae’r fideo canlynol yn rhoi cyflwyniad i wasanaethau ecosystemau:

sef-logo NRW_Logo_Linear

Dudalen gartref darlun gan Mike Hill: www.mikegwynhill.co.uk
Testun a chydlynu prosiect gan Philip McDonnell: pmdevelopment.weebly.com
Crëwyd y wefan gan Copper Bay Creative: www.copperbaycreative.co.uk