Mae llawer o enghreifftiau yn yr ardal o’r manteision sy’n gallu deillio o reoli’r amgylchedd naturiol yn ofalus gyda chyfranogaeth ei chymunedau. Dyma ddim ond ychydig enghreifftiau:
Gardd Gymunedol y Vetch
Cafodd yr ardd gymunedol hon yng nghanol Abertawe ei chreu yn 2011 fel prosiect celf penodol ar y safle– rhan o Olympiad Diwylliannol. Mae’r ardd ar hen faes pêl-droed y Vetch a’r bwriad yw hyrwyddo ac annog ysbryd cymunedol trwy arddio a gweithgareddau cymdeithasol. Mae’r prosiect nid yn unig wedi galluogi pobl i ymwneud yn… Read More
Canolfan Bywyd Gwyllt a SoDdGA Blackpill
Mae bron i ddwy ran o dair o draeth Abertawe o bwysigrwydd rhyngwladol i adar mudo yn gaeafu e.e. cwtiad torchog a phibydd y tywod. Daw’r adar i Blackpill i orffwyso a bwydo i baratoi ar gyfer eu tymor nythu nesaf. Fe’i dynodwyd yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) ym 1986. Yn ystod misoedd… Read More
Prosiect Cwm Tawe Isaf
Daeth Cwm Tawe Isaf yr ardal fwyaf o ddiffeithwch diwydiannol yn Ewrop pan adawodd y diwydiannau oedd wedi ffynnu yno rhwng y ddeunawfed ganrif a dechrau’r ugeinfed ganrif. Mae Prosiect Cwm Tawe Isaf, a ddechreuodd yn y 1960au, yn ceisio cael gwared ar lygredd a diffeithdra diwydiannol ac adfer yr ardal yn un y gellir… Read More
Parc Cymunedol Chwarel Rosehill
Man gwyrdd trefol yw Parc Cymunedol Chwarel Rosehill sy’n cael ei reoli gan grŵp o wirfoddolwyr lleol i fod yn adnodd cymunedol sy’n hyrwyddo bioamrywiaeth ac yn lle i hamddena. Daeth yn ganolbwynt digwyddiadau lleol, gan ddod â phobl at ei gilydd i gymryd cyfrifoldeb am ei gynnal a’i ddatblygu. Am ragor o wybodaeth ewch… Read More
Cynllun Amddiffyn Llifogydd Bro Abertawe
Mae cynllun llifogydd £7 miliwn ym Mro Abertawe wedi lleihau peryglon llifogydd i dros 300 o fusnesau a chartrefi. Codwyd glannau llifogydd ar 4 km o Afon Tawe a chafwyd gwared ar bontydd isel a allai fod wedi dal dŵr llifogydd yn ôl. Gosodwyd pont newydd ar gyfer beicwyr a cherddwyr yn uwch na lefel… Read More
Tyrbin Gwynt Cymunedol SA1 a Chynllun Ynni Eastside
Mae Tyrbin Gwynt Cymunedol SA1 yn nociau Abertawe yn cynhyrchu ynni adnewyddadwy i’w werthu i’r grid. Cafodd ei godi yn 2006 ac mae’n cael ei reoli er budd cymunedol gyda’r elw’n mynd at brosiectau cymunedol yn yr ardal. Mae Cynllun Ynni Eastside, sy’n cael ei weinyddu gan Ganolfan yr Amgylchedd, sy’n cael ei ariannu trwy’r… Read More
Adfer Cors Waun Fignen Felen
Mae prosiect adfer cors Waun Fignen Felen yn helpu i warchod ac adfer mawn noeth sydd wedi’i ddifrodi a hefyd i wella ansawdd dŵr. Mae corsydd yr Ucheldir yn cadw carbon yn yr aer sy’n dod yn rhan o blanhigion gwyrdd ac sy’n troi’n fawn mewn corsydd, sy’n arwain at lai o garbon deuocsid yn… Read More